Amdanom Ni



Mae Dillad Plant Pili Pala yn hoffi gwneud pethau ychydig yn wahanol.
Yr ydym yn cymryd gofal o’r hyn sy’n mynd i mewn i’n dillad a hefyd pwy sy’n eu gwneud.  Yn syml, mae cariad yn mynd i mewn i bopeth. Y defnyddio’r cotwm organig mwyaf meddal, ac y cael eu gwneud yn y ffatri fwyaf prydferth yng Nghymru (hen dy ffarm, gyda thrawstiau agored a theledu sgrin fflat!) mae Pili Pala yn benderfynol i wneud plant a’u teuluoedd deimlo’n dda.

 

Felly… dyma fo… ein casgliad cyntaf… wedi’i anelu at y creaduriaid bach sydd byth yn derbyn na fel ateb… eich cariadon bach, eich bwystfilod bach… eich plentyn bach annwyl!  Trwy liw a phrint yr ydym wedi ceisio dal eu hysbryd, gan wneud yn si?r bod ansawdd a bod yn gyfforddus dal ar yr agenda.  Yn ddigon trwsiadus i’r mamau ffasiynol i sylwi ar y parc chware, ond yn ddigon ymarferol i’r feithrinfa - Yr ydym yn hoffi ei alw’n Eco Chic.

 

Wedi’i nythu’n gysurus rhwng y cwm a’r môr, mae dillad plant Pili Pala yn falch i alw Cymru yn gartref.  Yr ydym yn ddiolchgar o’r prydferthwch sy’n ein hamgylchynu ac felly yn benderfynol i fod mor gynaliadwy â phosib.  Dyma’r peth iawn i wneud ac mae’n golygu bod ni’n cysgu’n well bob nos.

Dillad plant Pili Pala,  wedi’i dylunio a chariad, a’i gwneud i blant.

 

Tecstilau:

 

Mae ein defnydd yn tarddu o un cyflenwr Ewropeaidd.  Mae’r holl ddefnyddiau sy’n cael eu defnyddio yn y casgliad yn cyrraedd gofynion Oeko - Tex Stand 100 Dosbarth I.  Mae’r holl liwiau yn y defnyddiau yn cydymffurfio gyda rheolaeth SKAL / GOTZ.  Ar ôl i’r defnydd gael ei wneud, mae’n cael ei yrru i Gymru ac yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru. O ran ein hôl troed carbon, ni’n edrych yn eithaf da!

 

Cyfanwerthu:

 

Ar gyfer ymholiadau cyfanwerthu cysylltwch â Berith Lochery info@pilipalachildrenswear.com
Neu ffoniwch 07939342033

 

Pila Pala Childrenswear